
Dolwyddelan yn ei Blodau . . .

Grŵp o breswylwyr o’r un anian ydy ‘Dolwyddelan yn ei Blodau’ sy’n bwrw iddi i ofalu am edrychiad ein pentref. Drwy gydol y flwyddyn mae’r grŵp yn treulio boreau rheolaidd yn gofalu am gilfan Pont Arenig, gardd y Gofeb Ryfel, maes parcio’r orsaf drenau, platfform yr orsaf drenau, a blychau planhigion ar hyd a lled y pentref.

Mae aelodau wrthi’n gyson yn chwynnu, plannu, dyfrio, codi sbwriel, ail-beintio blychau planhigion a meinciau drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod Dolwyddelan yn bentref y gallwn barhau i ymfalchïo ynddi.


Hyd yn oed yn y glaw!

Platfform yr Orsaf

Pont Arenig
Os welwch chi unrhyw flodau cyhoeddus yn Nolwyddelan, mae’n ddigon posib mai
‘Dolwyddelan yn ei Blodau’ sy’n gyfrifol amdanyn nhw.

Hoffem estyn diolch hefyd i Kirsty a Joan sy’n gofalu am yr
ardd gymunedol ym Maes y Llan.