
Eglwys Sant Gwyddelan . . .


Mae’r eglwys bryderth hon wed’i chysegru i Gwydelan (‘y Gwyddel bach’) Sant cenhadwr Celtaidd o Iwerddon a helpadd i adfer Cristnogaeth ym Mhrydain yn y Sed ganrif.

Roedd eglwys wreiddiol y pentref wedi i lleoll ar fryn gerflaw o'r enw Bryn y Bedd. Cafodd ei dymchwel a’i ailadeiladu ar y safle hwn yn y 15fed ganrif gan Meredudd Wynn, un o gyndadau teulu dylanwadol y Wynniaid o Wydir.
Cymerodd Meredudd y carnau llym hyn oherwydd y problemau gyda herwyr a lladron a odd yn byw ‘dan loches' yn Hosbis Sant loan, Ysbyty Ifan. Am flynyddoedd lawer roedd yr herwyr hyn yn brawychu’r pentref ac roeddent yn ysbeilio cartref Meredudd pan roedd yn mynd i addoll yn yr hen eglwys ar y Bryn y Bedd.
Roedd symud yr eglwys yma, i safle mwy agored ac yn agosach i’w gartref ng Nghwm Penamnen, yn golygu y gallai Meredudd ddefnyddio gwylwyr yn ystod gwasanaethau eglwys, a fyddai’n rhybuddio os oedd yr herwyr ar fin ymosod.
Mae mynd i mewn i’r eglwys fel camu yn ôl mewn amser, ac wrth i chi edrych o gwmpas byddwch yn dod ar draws nifer o nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys cnociwr drws i ofyn am loches ar brif ddrws yr eglwys; y groglen or 15fed ganrif; ac enghraifft brin o un o ‘gistiau’r tiodion' sydd wedi goroesi hyd heddiw.
Pethau eraill i gadw llygaid amdanyn nhw yn Eglwys Sant Gwyddelan . . .

-
Draig Dolwyddelan: Draig wedi’i gerfio o goed ar drawst gangell ochr ogleddol, sydd wedi’i gysylltu â chwedl leol am fwystfil afon sy’n achosi llifogydd.
-
Cloch Gwyddelan: Yn yr eil ganol, os edrychwch chi i fyny fe welwch chi hen gloch Geltaidd yn hongian o’r trawst. Cafodd ei chloddio ym 1850, ar safle’r eglwys wreiddiol. Cloch llaw hynafol o’r 7fed ganrif sydd yn ôl y sôn wedi’i gludo o Iwerddon gan Sant Gwyddelan.
-
Ger blaen y corff eglwys mae sedd wedi’i cherfio gyda’r ymadrodd Cymraeg, 'Maingc i'r dyla i clyw', sy’n cyfieithu’n fras fel ‘mainc ar gyfer y rheiny sy’n drwm eu clyw’.