top of page

Beth ydy Menter Siabod? . . .

Logo

Sefydlwyd Menter Siabod Cyf. (mudiad gwirfoddol anfasnachol a ‘nid er elw’) yn 2023, gan breswylwyr a busnesau lleol, mewn ymdrech i gynorthwyo gyda nodi a diwallu, lle’n bosib, anghenion a dyheadau cymuned Dolwyddelan ac ardal Cod Post LL25. 

 

Dros y blynyddoedd bu’n blatfform defnyddiol ar gyfer ymgeisio am gyllid grant ar gyfer sawl prosiect cymunedol, ar gyfer ein mudiad ein hunain, ynghyd ag ar gyfer grwpiau cymunedol eraill sy’n hybu iechyd, lles a chydlyniant cymunedol.  

 

Yn ddiweddar, bu Menter Siabod yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: 

 

  • Cynnal a chadw dau o’r prif fannau cymunedol y gellir eu defnyddio gan grwpiau ac unigolion. Felly y Pafiliwn a’r Ystafell TG (Gwyddelan) (y ddau ger Ysgol Dolwyddelan).  Mae’r ddau fan mewn lle delfrydol, yn ddiogel o’r briffordd A470 trwy’r pentref.  

  • Cynhyrchu a dosbarthu newyddlen chwarterol y pentref am ddim i dros 290 o gartrefi yn y pentref a’r ardal gyfagos.

  • Cyfrannu rhoddion i Ysgol Dolwyddelan a grwpiau lleol eraill.

  • Trefnu digwyddiadau cymunedol megis Gŵyl y Gwanwyn, Te prynhawn yn y Pafiliwn, Ffeiriau Nadolig a diwrnodau Hanes ac ati.

 

Rydym yn dal yn fwy na pharod i helpu gyda cheisiadau priodol am gyllid ar ran prosiectau a grwpiau cymunedol lleol, gan y bydd y rhan fwyaf o gyrff ariannu ond yn dwyn i ystyriaeth ceisiadau gan fudiadau elusennol neu gwmnïau cofrestredig fel ni. 

 

Gan fwrw golwg tua’r dyfodol, byddem yn fwy na bodlon clywed unrhyw syniadau neu awgrymiadau gan y gymuned.

 

Yn wir, rydym yn grŵp cyfeillgar sy’n gofalu am y gymuned, ac rydym yn edrych am aelodau newydd, llawn brwdfrydedd. Rydym yn cynnal chwech cyfarfod y flwyddyn (mwy pan fo angen) sy’n para oddeutu dwy awr – gan rannu syniadau, awgrymu gwelliannau a chynnal a chadw’r Pafiliwn a’r Ystafell TG (Gwyddelan). Wrth gwrs mae hyn yn ffordd wych o gwrdd â Thrigolion eraill y Pentref, a chymryd rhan mewn prosiectau cyffrous sy’n rhoi hwb i’n hamgylchedd.  

 

Cysylltwch gyda ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon.

Y dasg gyntaf a’r fwyaf i’r grŵp ymgymryd â hi oedd adnewyddu’r hen bafiliwn pêl droed a’i throi’n fan cyfarfod i grwpiau, twristiaid.

Menter Siabod Cyf 

Y Pafiliwn Cymunedol 

Tu ô´l i Ysgol Dolwyddelan 

Dolwyddelan

Conwy 

LL25 0SZ

Neu fel arall gallwch gysylltu â’r canlynol i dderbyn ymateb cyflymach . . .

Kirsty Jones: 07703 834 322

Bob Valintine: 01690 750 205

Dilynwch ni:

  • Facebook

© 2026  Menter Siabod

Get in touch ... / Cysylltwch â ni ...
bottom of page