top of page

Clwb dydd Llun . . .

Mae Clwb Dydd Llun Dolwyddelan yn cyfarfod yn y Pafiliwn ar y trydydd dydd Llun o’r rhan fwyaf o fisoedd, heb law am fis Gorffennaf pan fyddwn ni’n mynd am ddiwrnod allan. 

 

Mae ein cyfarfodydd yn dechrau tua 2 o’r gloch – ac yn gorffen pan fyddwn ni’n teimlo felly. 

Rydym yn dechrau ein cyfarfod â Gweddi'r Arglwydd. Rydym ni’n aml yn cael siaradwr gwadd atom, fel arall rydym ni’n diddanu ein hunain gyda chwis hwyl neu sgwrs. Yn y gorffennol, mae ein siaradwyr wedi ein diddanu ar bynciau mor amrywiol fel turnio, brodwaith stwmp, Affrica a’r Men’s Shed. 

 

Bydd paned a bisged, cyfeillgarwch a chyfle i sgwrsio a chwerthin bob tro yn eich aros. 

 

Yn y gorffennol mae ein tripiau blynyddol wedi cynnwys taith mewn cwch o amgylch Ynys Seiriol, ymweld ag Amgueddfa’r 1950au yn Ninbych a thaith o amgylch Ynys Môn. 

 

Mae croeso mawr i rai newydd bob tro. 

Menter Siabod Cyf 

Y Pafiliwn Cymunedol 

Tu ô´l i Ysgol Dolwyddelan 

Dolwyddelan

Conwy 

LL25 0SZ

Neu fel arall gallwch gysylltu â’r canlynol i dderbyn ymateb cyflymach . . .

Kirsty Jones: 07703 834 322

Bob Valintine: 01690 750 205

Dilynwch ni:

  • Facebook

© 2026  Menter Siabod

Get in touch ... / Cysylltwch â ni ...
bottom of page