
Castell Dolwyddelan . . .
Mae’r castell nepell o’r A470 ar ochr Blaenau o Ddolwyddelan ac mae oddeutu 5 milltir o Fetws-y-Coed.
-
Gallwch weld y tu allan i’r castell unrhyw bryd, ond dim ond ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc 10am-4pm y ceir mynediad y tu mewn i’r tŵr.
-
Nid oes maes parcio pwrpasol ar gael
-
Mae’r llwybr o’r ffermdy i’r castell yn eiddo preifat a does dim mynediad i’r castell ar y llwybr hwn.
-
Mae cilfan ar yr A470 gyda hawl tramwy cyhoeddus.


Adeiladodd Llywelyn, rheolwr Gogledd Cymru am 40 mlynedd (a mwyafrif o weddill Cymru am ran helaeth o’r cyfnod hwnnw), castell Dolwyddelan yn oddeutu 1210, fel un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd yn Eryri. Roedd yn gweithredu fel safle gwarchod ar hyd prif lwybr drwy ogledd Cymru.

Adeiladwyd castell pren gwreiddiol Dolwyddelan ar fryncyn creigiog ar lawr y dyffryn islaw’r castell presennol. Mae’r bryncyn coediog lle safodd yr hen gastell i’w weld yn glir heddiw. Yno yn y castell pren, y credir Llywelyn Fawr (1172-1240) gael

Ar Ionawr y 18fed 1283, cipiwyd castell Dolwyddelan gan luoedd Lloegr o dan arweiniad Edward y 1af, yn ystod camau olaf ei ymdrech i oresgyn Cymru. Arhosodd lluoedd Lloegr yma tan 1290 fel y strategaeth hirdymor i reoli Cymru. Daeth hyn i ben pan ddechreuodd y criwiau goresgynnol ddibynnu mwyfwy ar ganolfannau milwrol a gweinyddol a oedd yn hygyrch o’r môr, a daeth cestyll mewndirol yn ddarfodedig.
Adeiladwyd mur o amgylch y Cwrt ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, a chafodd y tŵr sgwâr ei hadfer i’w gyflwr presennol yn ystod yr oes Fictoraidd


Dyfrlliw 1741

Llyn gan John Thomas 1875