
Sioe Arddwriaethol Flynyddol . . .
Sioe Flynyddol Cymdeithas Gerddi Dolwyddelan
Garddwriaeth – Coginio – Creffteu
Cynhelir yn Ysgol Dolwyddelan bob mis Medi.
Cynhaliwyd y Sioe Flynyddol gyntaf un ym 1944 ac mae wedi’i chynnal bob blwyddyn ers hynny.
Mae yna gategorïau ar wahân ar gyfer plant, trigolion lleol ac mae categori agored ar gyfer ymgeiswyr o du hwnt i’r ardal.
Peidiwch â chael eich rhwystro rhag ymgeisio gan feddwl nad yw eich cynnyrch yn ddigon da, mae’n bosib iawn fod pawb arall yn meddwl yr un peth! Pwy a ŵyr, bosib iawn y bydd eich ffa dringo mymryn yn sythach na rhai eich cymdogion!
Mae ymgeisio’n hwyl, a choeliwch chi mi, pan fyddwch chi’n gweld cerdyn medal o flaen eich ymgais, mae’n gwneud ichi deimlo fel rhan o draddodiad oesol.
Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae trefnu’r sioe wedi bod yn nwylo galluog
iawn Eurwyn Roberts, Pencafnau, ond yn anffodus bu farw Eurwyn yn 2025 ac mae
colled fawr ar ei ôl.
Manylion cyswllt ar gyfer y sioe. . .
Bethan Wyn Jones
Ebost: bwj.hendre@gmail.com
Ffôn: 01690 750 234 / 07901 780074


















