top of page

Ffynnon Elen – Ffynnon Sant Gwyddelan . . .

Mae Ffynnon Elen, wedi’i chynnal gan ffynnon danddaearol, y tu ôl i Westy Castell Elen. Gallwch gyrraedd y ffynnon ar hyd y llwybr troed i’r chwith o ardd y gwesty.

 

Ystyriwyd bod dyfroedd y ffynnon yn fuddiol, yn enwedig ar gyfer breichiau a choesau wedi’u parlysu ac i gryfhau plant gwan. Dywedir hefyd bod lleng filwyr Rhufeinig wedi manteisio ar ei dyfroedd. Rhoddwyd offrymau yn y gilfach sydd i’w weld yn y wal gefn. Y llwybr heibio’r ffynnon oedd un o’r ffyrdd gwreiddiol i’r pentref. Mewn tywydd rhewllyd, dywedwyd bod modd gweld stêm yn codi uwchben y ffynnon.   

Aeth Falcon Hildred, artist lleol adnabyddus, ati i greu’r gwaith celf ar y dangosfyrddau. Maen nhw’n darlunio Sant Gwyddelan ger y ffynnon, yn gynnar yn y mileniwm diwethaf, ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid.​​​​​​​​

Y ffynnon ym 1999 –  “Erbyn heddiw, mae perchennog y gwesty, Frank Ratcliffe, yn defnyddio’r hen ffynnon i ddyfrio ei ardd ond o bryd i’w

gilydd mae’n cael ei berswadio i dynnu tancer o’r dŵr i ymwelwyr

– mae’n hyfryd o felys a chlir gydag arogl mawnog.” 

Yn 2015 llwyddodd Menter Siabod gyda’u cais am grant gan Gronfa’r Loteri Dreftadaeth, Cymru, ar gyfer cloddiad archeolegol ac er mwyn ail-adeiladu’r ffynnon. Cyfrannodd Barc Cenedlaethol Eryri at y cyllid yn ogystal.  

 

Bill Jones, Cadeirydd Cymdeithas Hanes Dolwyddelan ac archeolegydd nodedig, wnaeth reoli’r prosiect cyfan, ar y cyd â Chymdeithas Ffynhonnau Cymru.  

Datgelodd y cloddiad dros gant o ddarnau o grochenwaith gan gynnwys ‘Midlands Purple Ware’ sy’n dyddio’n ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, a ‘Mottled Ware’ sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif, gan ddangos sut roedd crochenwaith yn cael eu prynu o ymhell y tu hwnt i’r ardal ac yna’n cael ei fasnachu’n lleol. 

 

Darganfuwyd tri darn o blwm a phiwter hefyd sydd heb eu hadnabod eto ac sydd yn nwylo Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymchwiliad pellach. Caiff pob carreg ei marcio’n archeolegol cyn iddi gael ei gosod yn ôl yn ei lle. 

Bendithio'r ffynnon ar ôl ei hailadeiladu, Mai 2015

O Hanes Dolwyddelan

gan Evan Thomas

a Gyhoeddwyd yn ‘Y Brython’ 1861

Roedd hen ffynnon enwog yn y plwyf hwn, a elwir yn Ffynnon Elen gan rai a Ffynnon Gwyddelan gan eraill. Mae hi’n dal i’w darganfod hyd heddiw, ond mae’n adfeilion erbyn hyn, ar ochr Pentre Felin [Roedd hyn cyn yr adeiladwyd Castell Elen] Roedd muriau’r ffynnon yn mesur deuddeg troedfedd o hyd, a naw troedfedd o led, gyda rhodfa oddeutu hanner llath o led o fewn y mur allanol, o amgylch ymyl y dŵr. Mae ffynhonnell y dŵr yn rhan uchaf y ffynnon o godiad y tir ac mae sianel yn ei siambr isaf i adael i’r dŵr lifo allan nes ei fod yn cael ei gwagio. Pan roedd yn bryd ei gwasanaethu, roedd angen gosod plwg yn yr agoriad i gasglu’r dŵr. Dywedir ei fod yn cael ei ystyried yn uchel ei fri ac yn enwog yn yr hen oesoedd. Prif rinwedd y ffynnon oedd cryfhau plant gwan ac adfer breichiau a choesau’r rheiny a oedd yn gloff. Mae sawl un yn dal yn fyw ar hyn o bryd, sy’n cofio dod â rhywun i’r ffynnon i drochi ac a fyddai’n cadarnhau’r dystiolaeth uchod. P’un a oes unrhyw rinwedd go iawn yn y dŵr ai peidio, pwy a ŵyr, byddai’n fuddiol ymchwilio i hyn. Fodd bynnag, mae bellach mewn cyflwr blêr a pheryglus dros ben a chyn bo hir bydd wedi mynd a’i ben iddo os na chaiff ei atgyweirio ar frys. 

Yn anffodus, ers ei throsglwyddo’n ôl i’r tirfeddianwyr, mae’r ffynnon wedi dychwelyd i’r un cyflwr. BYDDWCH YN OFALUS os ydych chi’n ceisio dod o hyd iddi, mae yna sawl ffos ddofn a chorffrydiau cudd ymhlith yr isdyfiant.  

Menter Siabod Cyf 

Y Pafiliwn Cymunedol 

Tu ô´l i Ysgol Dolwyddelan 

Dolwyddelan

Conwy 

LL25 0SZ

Neu fel arall gallwch gysylltu â’r canlynol i dderbyn ymateb cyflymach . . .

Kirsty Jones: 07703 834 322

Bob Valintine: 01690 750 205

Dilynwch ni:

  • Facebook

© 2026  Menter Siabod

Get in touch ... / Cysylltwch â ni ...
bottom of page