top of page

Ardal bicnic a pharc bywyd gwyllt . . .
Mae’r ardd bywyd gwyllt i’w chael yn ymyl maes parcio’r Orsaf Drenau ac mae o’n lle braf i gael picnic. Ceir nifer o baneli dehongli yno, yn llawn gwybodaeth am fywyd gwyllt yr hanes yr ardal.
Mae’r parc a gerddi’r orsaf yn cael eu cynnal a’u cadw gan aelodau ‘Dolwyddelan yn ei Flodau’.
Mae digon o le i eistedd yno ac mae biniau sbwriel yno hefyd.
Mae o hefyd, oherwydd y maes parcio, yn fan cychwyn (a gorffen) delfrydol i daith gerdded.


bottom of page