
Americaniaid ym Mhont Rufeinig, Mai 1944 . . .
Ni allaf ddychmygu bod llawer iawn o drigolion yn Nolwyddelan sy’n anymwybodol o chwedl y milwyr Americanaidd, y gorlifwyd eu gwersyll yn y Bont Rufeinig, ond nid oedd llawer yn gwybod pwy oedd y dynion hyn, a chredwch neu beidio, yn dal ddim yn gwybod hyd heddiw.

Diolch yn fawr i Richard Swinford o Ben-y-Bont, Pont Rufeinig am ei ymchwil barhaus, a arweiniodd at ddatgelu enw’r gatrawd yr oedd y GI hyn yn perthyn iddi. Nhw oedd yr 83fed Adran Troedfilwyr, a elwir yn boblogaidd fel y ‘Thunderbolts,’ gan darddu o Ohio, ac a ffurfiwyd ym mis Medi 1917.
Ym mis Ebrill 1944, o dan orchymyn yr Uwch-gadfridog Robert C Macron, fe gyrhaeddodd y Thunderbolts yn Lloegr, yn barod i ymgymryd â hyfforddiant ‘ar lawr gwlad’, yn barod ar gyfer glaniadau D-Day; roedd eu prif wersyll yn Neuadd Keele, Swydd Stafford.
Oddi yno, aeth milwyr allan tua thir garw, gyda Bataliwn 1af a 3ydd yr 331ain Gatrawd a oedd yn perthyn i’r 83fed Adran Troedfilwyr yn cyrraedd y dirwedd o amgylch Ffestiniog. Gyda bod yr ardal mor bellennig, roedd yn gyfle delfrydol iddyn nhw ymarfer gyda bwledi byw heb ryw lawer o berygl o daro unrhyw beth ond am ambell i ddafad.
Yn erbyn cyngor y tirfeddiannwr, ar Fai’r 10fed, fe wnaeth yr Americaniaid ymgartrefu a sefydlu eu gwersyll ar y tir pori gwastad ger yr orsaf yn y Bont Rufeinig. Gwyddai unrhyw un lleol ei fod yn orlifdir ond fe wnaeth y GI’s wrthod gwrando; dim ond ambell i babell yn unig oedd yno ychwaith, roedd yn drefgordd fechan gydag oddeutu 180 o ddynion, gan gynnwys pebyll bwyta, bivouacs cysgu, unedau tai bach a storfeydd.

Roedd popeth yn iawn am ychydig ddyddiau, gyda sŵn saethu yn atseinio o amgylch y bryniau lleol. Roedd y dynion wrthi’n hyfforddi’n galed yn ystod y dydd ac yn cysgu’n sownd gyda’r nos gyda chymorth awyr iach Cymru.
Roedd yr hyfforddiant yn llwyddiannus, neu mor llwyddiannus â phosib ar dirwedd wlyb, rewllyd, gwyntog, tan ychydig nosweithiau’n ddiweddarach, pan ymhellach ym mryniau Eryri roedd hi’n tywallt y glaw. Ar doriad gwawr, daeth ton o ddŵr a llenwi’r Afon Lledr llonydd gan greu nant a ddatblygodd i fod yn llyn cyn pen dim; wrth gwrs mae hynny i’w ddisgwyl ar orlifdir! Yn fwyaf sydyn, roedd yr holl wersyll yn trochi mewn dŵr troedfedd o ddwfn, gyda phebyll gwlyb socian ac eiddo’r milwyr yn llifo lawr yr afon. Aethpwyd ati i adael ar unwaith, gyda chymaint â phosibl yn defnyddio cerbydau’r fyddin a oedd wedi’u gadael dros nos, ar y ffordd ar dir uwch, ac eraill yn brysio i deithio ar drenau o orsaf y Bont Rufeinig gerllaw.

Pont Rufeinig dan ddŵr. Dyma wnaeth yr Americaniaid ddeffro i’w weld 2026.
O bapur newydd lleol ychydig flynyddoedd ar ôl y digwyddiad . . .
“Dim dyma oedd diwedd y gân. Wrth i’r dyfroedd gilio, fe ddadorchuddiwyd pob math o dlysau dymunol. Am gyfnod, bu i bobl ifanc lleol fwynhau chwarae cowbois gyda reifflau go iawn (nes i’r heddlu ddod i wybod am hyn). Bu i gofroddion eraill ymgartrefu mewn bythynnod lleol, gydag un wraig yn dal i docio ei rhosod gyda thorwyr gwifren o safon, wedi’u gadael gan yr Americaniaid ar y noson dyngedfennol honno, yn dal fel newydd yn eu cwdyn gwreiddiol. Yn wir mae sawl silff ben tân wedi’u haddurno gan fwledi Americanaidd wedi’u harddangos gyda balchder, neu helmed Americanaidd yn cael ei ddefnyddio fel bwced bwyd ar gyfer yd eu hieir.”
Gadawodd yr 83fed Adran Gymru gan deithio tuag arfordir y de ar gyfer eu taith ddisgwyliedig i Ewrop, lle roedden nhw’n cymryd rhan yng Ngoresgyniad y Cynghreiriaid ar Normandi, ond er gwaethaf popeth, roedd y tywydd yn anffafriol unwaith eto.
Daw’r geiriau hyn o drac sain Rholyn Newyddion Pathé sy’n dangos milwyr yr 83fed Adran yn glanio, mewn amodau peryglus cyn cychwyn am Ffrainc…
“Mae storm sianel sydyn yn chwipio oddi ar arfordir Normandi. Gwelir y llynges sy’n cludo Adran 83fed ger Traeth Ohama, mae llongau’n chwalu ac yn cyrraedd y lan. Ar y lan hefyd mae’r pierau glanio dur trwm yn troelli ac yn chwalu’n deilchion. Am dridiau a thair noson mae’r adran yn aros i’r storm gilio.”
O’r diwedd fe wnaethon nhw lanio ar draeth Ohama ar Fehefin y 18fed, bron i bythefnos ar ôl goresgyniad D-Day y cynghreiriaid ar Orllewin Ewrop.

Dynion yr 83fed Adran yn aros i lanio ar Draeth Ohama, dim ond ychydig ddyddiau ar ôl gadael Dolwyddelan.
Cliciwch i wylio Rholyn Newyddion Pathé o laniad yr 83fed Adran yn Ffrainc.
Cyn gynted ag yr oeddwn i [Shaun Hewitt] wedi dysgu gan Richard Swinford i ba Fataliwn yr oedd y milwyr yn perthyn iddo, wrth gwrs fe es i ati i chwilio ar y we, ac er syndod mae ganddyn nhw eu tudalen Facebook eu hunain! Yn hwyr un noson fe wnes i anfon neges atyn nhw, yn gofyn a oedd unrhyw un wedi clywed am y llifogydd yn y Bont Rufeinig, neu’n gwybod unrhyw beth amdano; gyda theimlad o obaith yn hytrach nac unrhyw ddisgwyliadau. Y bore canlynol, fe wnes i ddeffro i gyfres hir o ymatebion, gan gynnwys . . .
Suzy Moravick – “Roedd fy nhad wedi’i ddal yn y glaw ac fe aeth i dir uwch. Fe adroddodd fy nhad, a oedd yn byw a bod yn yr awyr agored, yr hanes wrthym a’i fod wedi dweud wrth y dynion eraill i fentro i dir uwch, ond ni wnaeth llawer ohonyn nhw hynny.”
Steve Moravick

Jodell Newman Ryan – “Fe ddywedodd fy nhad yr oedd yr oeraf yr oedd erioed wedi bod yn ei fywyd yng Nghymru.”
Seimon Pugh-Jones – “Y lle mwyaf llwm yn y byd. Awyr lwyd, cerrig llwyd… ond roedd y bobl yn halen y ddaear.”

Judy Bielen – “Bu farw fy nhad, Stanley Bielen yn 2015. Ymhlith yr atgofion a rannodd gyda’i blant oedd ei hyfforddiant catrodau yng Nghymru o amgylch Yr Wyddfa. Soniodd am y llifogydd hefyd.
At hyn, bu i fy nhad sôn am ba mor gyfeillgar a chroesawgar oedd y bobl leol tuag at y GI’s.”
Roedd Stanley Bielen yn 19 oed pan roedd yn hyfforddi yng Nghymru
Tim Klu – “Mae Al Klugiewicz yn cofio hyfforddi ym
Mlaenau Ffestiniog, mae’n cofio’r llifogydd ac roedd yn credu
bod llawer iawn o gyfarpar wedi’i golli.”
Aloysius Klugiewicz yn yr Germany 1945
A dyma Al, yn 102 a hanner mlwydd oed, yn Chwefror 2019 mewn 83fed cinio aduniad.


