
Ymchwil teulu . . .
Os hoffech chi fwrw golwg ar gofnodion y pentref, gallwn drefnu i gwrdd yn y Pafiliwn (os ydych chi yn yr ardal), lle gellir chwilio’r cofnodion ar bapur. Neu gallwn eich helpu ar-lein. Mae hwn yn wasanaeth gwirfoddol gan hanesydd lleol sydd bob amser yn fwy na pharod ei gymwynas.
Gellir cynnig cyngor ar ymchwil teulu yn ogystal.
Ebost: shaunhewitt@me.com
Dyma’r cofnodion sydd ar gael ar hyn o bryd. . .
Cyfrifiad . . .
1841 hyd at 1921 (gan gynnwys cyfrifiad 1841 answyddogol, wedi’i ysgrifennu gan berson lleol. Mae yna gryn dipyn o wybodaeth teulu anffurfiol wedi’i gynnwys.
Cofnod 1939 – wedi’i lunio ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd
Eglwys Sant Gwyddelan . . .
-
Bedyddiadau 1737 hyd at 2003
-
Priodasau 1737 hyd at 1935
-
Angladdau 1737 hyd at 1977
Capel Elen
Bedyddiadau 1813 hyd at 1836
Capel Gennesaret
Bedyddiadau 1817 hyd at 1836
-
Arysgrifau cerrig beddi mynwent Sant Gwyddelan a Bryn y Bedd. Mae’n cynnwys lleoliadau yr holl feddau.
-
Hen fapiau o’r ardal, gan gynnwys enwau tai.
-
Cyfle i fwrw golwg ar hen bapurau newydd ar-lein.
-
Bywgraffiadau nifer o drigolion Dolwyddelan yn y gorffennol.
-
Nifer o ddogfennau a lluniau hanesyddol am y pentref a gwybodaeth sy’n ymwneud â phob agwedd ar fywyd pentref yn y gorffennol.
Os oes gennych chi gysylltiad hanesyddol â’r pentref, neu wybodaeth i’w rhannu,
byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.