top of page

Tai Penamnen (Cwm Penamnen) . . .

"Dyffryn neu gwm Penamnen, lle adeiladwyd y plasty hynafol gan Ieuan

ap Robert ap Meredith, yn nheyrnasiad y 7fed Harri – sy’n ymestyn

o Ddyffryn Dolwyddelen 1797” 

Tŷ Penamnen ydy’r enw a roddir ar olion yr hen dŷ yng Nghwm Penamnen, Dolwyddelan.  

Adeiladwyd y ‘plasty’ cyntaf gan Maredudd ap Ieuan, uchelwr o Benrhyn Llŷn a ymgartrefodd yng nghastell Dolwyddelan yn ystod y 15fed ganrif, gyda’r bwriad o ymestyn ei diriogaethau i diroedd digyfreithiol Eryri. Yn dilyn sawl blwyddyn, gadawodd Maredudd y Castell a symud i Gwm Penamnen, gan ymestyn adeilad presennol i ddarparu ar gyfer ei statws uchel. 

 

Cynhaliwyd cloddiad archeolegol ar y safle hwn yn 2007 a barodd am saith mlynedd i gyd. Cynhaliwyd hyn gan amaturiaid ymroddedig gwirfoddol. Darganfuwyd deugain mil o ddarnau o grochenwaith, ynghyd â dros fil a hanner o ddarnau o bibellau tybaco clai. 

Amserlen Tai Penamnen . . .

​

1500c

Bwthyn un stafell gyda lle tân cil pentan a simnai ochrol oedd y tŷ cyntaf i’w adeiladu yma. Roedd yr adeilad hwn yn bodoli yn ystod Rhyfel y Rhosynnau ac yn gynharach yn ôl pob tebyg.

 

1600c

Oddeutu 1500 adeiladodd Maredudd ab Ieuan, sefydlydd Wynn’s o Wydir, estyniad i’r naill ochr a’r llall i’r bwthyn. Nod adeiladu’r estyniad oedd er mwyn amddiffyn rhag y tywydd, ond hefyd i amddiffyn yn erbyn y troseddwyr, a oedd yn creu helynt yn yr ardal ar y pryd.

 

1800c

Bu i Angharad James rhentu’r tŷ a’r dyffryn cyfan gan y teulu Wynn ar ddechrau’r 18fed ganrif. Roedd hi’n adnabyddus am ei gwybodaeth o’r gyfraith, ac fel bardd a cherddor yn ogystal. Priododd William Pritchard pan roedd hi’n ugain oed ac yntau’n ddeugain mlynedd yn hŷn. Roedd hi’n arfer chwarae’r delyn, tra bu i’w morynion yn dawnsio i’r gerddoriaeth, mewn man o’r enw clwt y ddawns (llain o dir ar gyfer dawnsio).  

 

1900c

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd tai eraill wedi’u hadeiladu yno, yn gartref i gymuned ffyniannus o dros deg ar hugain o breswylwyr. Fodd bynnag, ar ddechrau’r 20fed ganrif dim ond un teulu oedd yn dal yno, ac yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf roedd pawb wedi codi pac a chafodd ei adael yn llwyr.​

​

Ymhlith yr arteffactau ‘dydd i ddydd’ a ddarganfuwyd, oedd dwy eitem

a ellid eu hystyried yn ‘arbennig’… 

Chatelaine / cadwyn wregys o’r unfed ganrif ar bymtheg (bachyn i’w hongian o wregys sy’n dal siswrn, gwniadur, goriadau ac ati). Wedi’i ddyddio’n ôl i c1550, ac wedi’i wneud o aloi copr. 

‘Stifnwr’ aloi copr a oedd yn cael ei osod ar ymyl cwfl o amgylch wyneb merch ffasiynol yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Menter Siabod Cyf 

Y Pafiliwn Cymunedol 

Tu ô´l i Ysgol Dolwyddelan 

Dolwyddelan

Conwy 

LL25 0SZ

Neu fel arall gallwch gysylltu â’r canlynol i dderbyn ymateb cyflymach . . .

Kirsty Jones: 07703 834 322

Bob Valintine: 01690 750 205

Dilynwch ni:

  • Facebook

© 2026  Menter Siabod

Get in touch ... / Cysylltwch â ni ...
bottom of page